Beth yw manteision llogi prentis?
Y manteision i'ch busnes wrth gyflogi prentis
Mae llogi prentis yn ffordd gynhyrchiol ac effeithiol o dyfu talent a datblygu gweithlu llawn cymhelliant, medrus a chymwys.
- Dywedodd 86% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w sefydliad
- Dywedodd 78% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella cynhyrchiant
- Dywedodd 74% o gyflogwyr fod prentisiaethau wedi eu helpu i wella ansawdd eu cynnyrch neu wasanaeth
Mae manteision eraill gweithio gyda phrentisiaid yn cynnwys:
- gallwch addasu eu hyfforddiant yn unol ag anghenion eich busnes
- maent yn cael eu hysgogi i ddysgu sgiliau newydd
- gallwch ehangu ac uwchsgilio eich gweithlu